1 Corinthiaid 16:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Am hynny, peidied neb â'i ddiystyru, ond hebryngwch ef ar ei ffordd â sêl eich bendith, iddo gael dod ataf fi. Oherwydd yr wyf yn ei ddisgwyl gyda'r credinwyr.

12. Ynglŷn â'n brawd Apolos, erfyniais yn daer arno i ddod atoch gyda'r lleill, ond nid oedd yn fodlon o gwbl ddod ar hyn o bryd. Ond fe ddaw pan fydd gwell cyfle.

13. Byddwch yn wyliadwrus, safwch yn gadarn yn y ffydd, byddwch yn wrol, ymgryfhewch.

1 Corinthiaid 16