1 Corinthiaid 16:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ynglŷn â'r casgliad i'r saint, gweithredwch chwithau hefyd yn ôl y cyfarwyddiadau a roddais i eglwysi Galatia.

2. Y dydd cyntaf o bob wythnos, bydded i bob un ohonoch, yn ôl ei enillion, osod cyfran o'r neilltu ac ar gadw, fel nad pan ddof fi y gwneir y casgliadau.

3. Wedi imi gyrraedd, mi anfonaf pwy bynnag sydd yn gymeradwy yn eich golwg chwi, i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem, gyda llythyrau i'w cyflwyno.

1 Corinthiaid 16