1 Corinthiaid 15:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Oherwydd, yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau;

4. iddo gael ei gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau;

5. ac iddo ymddangos i Ceffas, ac yna i'r Deuddeg.

6. Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o'i ddilynwyr ar unwaith—ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno.

7. Yna, ymddangosodd i Iago, yna i'r holl apostolion.

1 Corinthiaid 15