1 Corinthiaid 15:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno.

21. Gan mai trwy ddyn y daeth marwolaeth, trwy ddyn hefyd y daeth atgyfodiad y meirw.

22. Oherwydd fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd y gwneir pawb yn fyw yng Nghrist.

1 Corinthiaid 15