1 Corinthiaid 13:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Nid yw'n gwneud dim sy'n anweddus, nid yw'n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw'n gwylltio, nid yw'n cadw cyfrif o gam;

6. nid yw'n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae'n cydlawenhau รข'r gwirionedd.

7. Y mae'n goddef i'r eithaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf, yn dal ati i'r eithaf.

8. Nid yw cariad yn darfod byth. Ond proffwydoliaethau, fe'u diddymir hwy; a thafodau, bydd taw arnynt hwy; a gwybodaeth, fe'i diddymir hithau.

9. Oherwydd anghyflawn yw ein gwybod ni, ac anghyflawn ein proffwydo ni.

10. Ond pan ddaw'r hyn sy'n gyflawn, fe ddiddymir yr hyn sy'n anghyflawn.

1 Corinthiaid 13