1 Corinthiaid 12:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Y mae amrywiaeth doniau, ond yr un Ysbryd sy'n eu rhoi;

5. ac y mae amrywiaeth gweinidogaethau, ond yr un Arglwydd sy'n eu rhoi;

6. ac y mae amrywiaeth gweithrediadau, ond yr un Duw sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb.

7. Rhoddir amlygiad o'r Ysbryd i bob un, er lles pawb.

8. Oherwydd fe roddir i un, trwy'r Ysbryd, lefaru doethineb; i un arall, lefaru gwybodaeth, yn ôl yr un Ysbryd;

9. i un arall rhoddir ffydd, trwy'r un Ysbryd; i un arall ddoniau iacháu, trwy'r un Ysbryd;

1 Corinthiaid 12