1 Corinthiaid 10:30-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Os wyf fi'n cymryd fy mwyd â diolch, pam y ceir bai arnaf ar gyfrif bwyd yr wyf yn diolch i Dduw amdano?

31. Felly, beth bynnag a wnewch, p'run ai bwyta, neu yfed, neu unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw.

32. Peidiwch â bod yn achos tramgwydd i'r Iddewon na'r Groegiaid, nac i eglwys Dduw.

1 Corinthiaid 10