1 Brenhinoedd 8:55-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

55. a sefyll i fendithio holl gynulleidfa Israel â llais uchel, a dweud:

56. “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a roddodd orffwystra i'w bobl Israel yn hollol fel y dywedodd. Ni fethodd yr un gair o'i holl addewid ddaionus a fynegodd trwy ei was Moses.

57. Bydded yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel y bu gyda'n hynafiaid ni; na fydded iddo'n gwrthod na'n gadael.

1 Brenhinoedd 8