1 Brenhinoedd 8:40-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

40. felly byddant yn dy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i'n hynafiaid.

41. “Os daw rhywun dieithr, nad yw'n un o'th bobl Israel, o wlad bell er mwyn dy enw—

42. canys clywant am dy enw mawr, ac am dy law gref a'th fraich estynedig—ac os gweddïa tua'r tŷ hwn,

43. gwrando di yn y nef lle'r wyt yn preswylio, a gweithreda yn ôl y cwbl y mae'r dieithryn yn ei ddeisyf arnat, er mwyn i holl bobloedd y byd adnabod dy enw a'th ofni yr un fath â'th bobl Israel, a sylweddoli mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.

1 Brenhinoedd 8