1 Brenhinoedd 6:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored ar y ddwy ddôr o goed olewydd; wedyn goreurodd hwy, a rhedeg aur dros y cerwbiaid a'r palmwydd.

33. Yn yr un modd gwnaeth gilbyst sgwâr o goed palmwydd i fynedfa corff y deml.

34. Yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd, y naill a'r llall yn ddeuddarn yn plygu ar ei gilydd.

35. Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored arnynt, a'u goreuro'n gytbwys dros y cerfiad.

36. Adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thri chwrs o gerrig nadd ac â chwrs o drawstiau cedrwydd.

1 Brenhinoedd 6