1 Brenhinoedd 6:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Deg cufydd oedd uchder y naill a'r llall.

27. Gosododd y cerwbiaid yng nghanol y cysegr mewnol. Yr oedd eu hadenydd ar led, ac adain y naill yn cyffwrdd ag un pared ac adain y llall yn cyffwrdd â'r pared arall, a'u hadenydd yn cyffwrdd â'i gilydd yn y canol.

28. Yr oedd wedi goreuro'r cerwbiaid.

29. Cerfiodd holl barwydydd y cysegr mewnol o amgylch â lluniau cerwbiaid a phalmwydd a blodau agored, y tu mewn a'r tu allan;

1 Brenhinoedd 6