1 Brenhinoedd 6:11-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Daeth gair yr ARGLWYDD at Solomon, gan ddweud,

12. “Ynglŷn â'r tŷ hwn yr wyt yn ei adeiladu, os bydd iti rodio yn fy neddfau a chyflawni fy marnedigaethau a chadw fy holl orchmynion a'u dilyn, yna cyflawnaf iti yr addewid a wneuthum i'th dad Dafydd;

13. a thrigaf ymysg plant Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.”

14. Adeiladodd Solomon y tŷ a'i orffen;

15. a byrddiodd barwydydd y tŷ ag ystyllod cedrwydd, a'u coedio o'r llawr hyd dulathau'r nenfwd, a llorio'r tŷ â phlanciau ffynidwydd.

16. Caeodd ugain cufydd yn nhalcen y tŷ ag ystyllod cedrwydd, o'r llawr hyd y tulathau, a'i neilltuo iddo'i hun yn gysegr mewnol, i fod yn gysegr sancteiddiaf.

17. Yr oedd y tŷ, sef corff y deml o flaen y cysegr mewnol, yn ddeugain cufydd o hyd.

18. Yr oedd y cedrwydd y tu mewn i'r tŷ wedi eu cerfio'n gnapiau ac yn flodau agored; yr oedd yn gedrwydd i gyd, heb garreg yn y golwg.

19. Darparodd y cysegr mewnol yn y man nesaf i mewn yn y tŷ i dderbyn arch cyfamod yr ARGLWYDD.

20. Yr oedd y cysegr mewnol yn ugain cufydd o hyd, ugain o led ac ugain o uchder, a goreurodd hi ag aur pur; gwnaeth hefyd allor gedrwydd.

21. Goreurodd Solomon y tŷ oddi mewn ag aur pur, a gosododd gadwyni aur ar draws, o flaen y cysegr mewnol a oreurwyd.

22. Gwisgodd yr holl dŷ o'i gwr ag aur, a'r allor i gyd, a oedd yn perthyn i'r cysegr mewnol.

23. Yn y cysegr mewnol gwnaeth ddau gerwb, deg cufydd o uchder, o bren olewydd.

24. Yr oedd dwy adain y naill gerwb yn bum cufydd yr un, sef deg cufydd o flaen un adain i flaen y llall.

25. Yr oedd yr ail gerwb yn ddeg cufydd hefyd, gyda'r un mesur a'r un ffurf i'r ddau.

26. Deg cufydd oedd uchder y naill a'r llall.

27. Gosododd y cerwbiaid yng nghanol y cysegr mewnol. Yr oedd eu hadenydd ar led, ac adain y naill yn cyffwrdd ag un pared ac adain y llall yn cyffwrdd â'r pared arall, a'u hadenydd yn cyffwrdd â'i gilydd yn y canol.

28. Yr oedd wedi goreuro'r cerwbiaid.

29. Cerfiodd holl barwydydd y cysegr mewnol o amgylch â lluniau cerwbiaid a phalmwydd a blodau agored, y tu mewn a'r tu allan;

30. a goreurodd lawr y cysegr mewnol oddi mewn ac oddi allan.

31. Gwnaeth ddorau o goed olewydd i fynedfa'r cysegr mewnol, a'r capan a'r cilbyst yn bumochrog.

1 Brenhinoedd 6