1 Brenhinoedd 5:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan glywodd Hiram brenin Tyrus mai Solomon oedd wedi ei eneinio yn frenin yn lle ei dad, anfonodd ei weision ato, oherwydd bu Dafydd yn hoff gan Hiram erioed.

2. Anfonodd Solomon yn ôl at Hiram a dweud,

3. “Gwyddost am fy nhad Dafydd, na allodd adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD ei Dduw o achos y rhyfeloedd o'i amgylch, nes i'r ARGLWYDD roi ei elynion dan wadnau ei draed.

1 Brenhinoedd 5