1 Brenhinoedd 3:3-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Yr oedd Solomon yn caru'r ARGLWYDD, gan rodio yn ôl deddfau ei dad Dafydd, ond yn aberthu ac yn arogldarthu mewn uchelfeydd.

4. Aeth y brenin i aberthu i Gibeon. Honno oedd y brif uchelfa; mil o boethoffrymau a offrymai Solomon ar yr allor yno.

5. Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon yn Gibeon mewn breuddwyd liw nos; a dywedodd DUW, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf.”

6. Dywedodd Solomon, “Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw.

7. Yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, gwnaethost dy was yn frenin yn lle fy nhad Dafydd, a minnau'n llanc ifanc, dibrofiad.

8. Ac y mae dy was yng nghanol dy ddewis bobl, sy'n rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif.

9. Felly rho i'th was galon ddeallus i farnu dy bobl, i ddirnad da a drwg; oherwydd pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?”

10. Bu'n dderbyniol yng ngolwg yr ARGLWYDD i Solomon ofyn y peth hwn,

11. a dywedodd Duw wrtho, “Oherwydd iti ofyn hyn, ac nid gofyn i ti dy hun flynyddoedd lawer, na chyfoeth, nac einioes dy elynion, ond gofyn deall wrth wrando achos,

12. gwnaf yn ôl dy eiriau. Rhoddaf iti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o'th flaen, ac na chyfyd chwaith ar dy ôl.

13. Rhoddaf hefyd iti yr hyn nis gofynnaist, sef cyfoeth a gogoniant, fel na bydd dy fath ymysg brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.

14. Ac os bydd iti rodio yn fy ffyrdd, a chadw fy neddfau a'm gorchmynion, fel y rhodiodd dy dad Dafydd, estynnaf dy ddyddiau hefyd.”

15. Deffrôdd Solomon, a sylweddoli mai breuddwyd oedd. Pan ddaeth yn ôl i Jerwsalem, safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD ac offrymodd boethoffrymau a heddoffrymau, a gwnaeth wledd i'w holl weision.

16. Daeth dwy buteinwraig at y brenin a sefyll o'i flaen.

17. Dywedodd y naill, “O f'arglwydd, roeddwn i a'r wraig hon yn byw yn yr un tŷ, ac esgorais ar blentyn yn y tŷ, a hithau yno.

18. Tridiau wedi i mi esgor, esgorodd y wraig hon hefyd, heb neb ond ni'n dwy yn y tŷ.

19. Bu farw plentyn y wraig hon yn y nos, am iddi orwedd arno;

20. cododd hithau yn ystod y nos a chymryd fy mab o'm hymyl tra oeddwn i, dy lawforwyn, yn cysgu, a'i gymryd i'w chôl a gosod ei phlentyn marw yn fy nghôl i.

1 Brenhinoedd 3