7. Ond holodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?”
8. Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oes, y mae un gŵr eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla; ond y mae'n atgas gennyf, am nad yw'n proffwydo lles i mi, dim ond drwg.” Dywedodd Jehosaffat, “Peidied y brenin â dweud fel yna.”
9. Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, “Tyrd â Michea fab Imla yma ar frys.”
10. Yr oedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar eu gorseddau ar y llawr dyrnu wrth borth Samaria, gyda'r holl broffwydi'n proffwydo o'u blaen.
11. Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Â'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.’ ”
12. Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, “Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin.”
13. Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, “Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant.”
14. Atebodd Michea, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf a lefaraf.”