1 Brenhinoedd 20:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Dywedodd yr henuriaid i gyd a'r holl bobl wrtho, “Paid â gwrando, a phaid â chytuno.”

9. Yna dywedodd y brenin wrth negesyddion Ben-hadad, “Dywedwch wrth f'arglwydd frenin, ‘Gwnaf bopeth a hawliaist gan dy was y tro cyntaf, ond ni allaf wneud y peth hwn.’ ” Ymadawodd y negesyddion a mynd â'r ateb i Ben-hadad.

10. Anfonodd hwnnw'n ôl a dweud, “Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os bydd llwch Samaria yn ddigon i wneud dyrnaid bob un i'r bobl sy'n fy nilyn.”

1 Brenhinoedd 20