1 Brenhinoedd 20:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Casglodd Ben-hadad brenin Syria ei holl lu, gyda meirch a cherbydau, a deuddeg ar hugain o frenhinoedd gydag ef, ac aeth i warchae ar Samaria a brwydro yn ei herbyn.

2. Anfonodd negesyddion i'r ddinas at Ahab brenin Israel,

3. a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed Ben-hadad: ‘Fi piau dy arian a'th aur, a hefyd dy wragedd a'th blant tecaf.’ ”

4. Atebodd brenin Israel, “Fel y dywedi, f'arglwydd frenin; ti piau fi a phopeth a feddaf.”

1 Brenhinoedd 20