1 Brenhinoedd 2:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ond yn awr, paid â'i adael yn ddi-gosb; yr wyt yn ŵr doeth, a gwyddost beth i'w wneud iddo; pâr i'w benwynni ddisgyn mewn gwaed i'r bedd.”

10. Bu farw Dafydd, a chladdwyd ef yn Ninas Dafydd.

11. Deugain mlynedd oedd y cyfnod y teyrnasodd Dafydd ar Israel; teyrnasodd yn Hebron am saith mlynedd, ac yn Jerwsalem am dri deg a thair o flynyddoedd.

12. Yna eisteddodd Solomon ar orsedd ei dad Dafydd, a sicrhawyd ei frenhiniaeth yn gadarn.

1 Brenhinoedd 2