1 Brenhinoedd 2:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Daeth Adoneia fab Haggith at Bathseba mam Solomon, a dywedodd hi, “Ai mewn heddwch yr wyt yn dod?” Atebodd yntau, “Mewn heddwch.

14. Hoffwn air â thi.” Atebodd hithau, “Llefara.”

15. Yna dywedodd ef, “Fe wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel roi eu bryd ar fy ngwneud yn frenin; ond daeth tro ar fyd, ac aeth y frenhiniaeth i'm brawd; trwy'r ARGLWYDD y cafodd hi.

16. Yn awr y mae gennyf un cais i'w ofyn gennyt; paid â'm gwrthod.” Dywedodd hithau, “Gofyn.”

1 Brenhinoedd 2