16. Nid aeth y celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych, yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Elias.
17. Ymhen ysbaid clafychodd mab y wraig oedd biau'r tŷ; aeth yn ddifrifol wael, fel nad oedd anadl ar ôl ynddo.
18. A dywedodd hi wrth Elias, “Beth sydd gennyt yn f'erbyn, ŵr Duw? Ai dod ataf a wnaethost i dynnu sylw at fy nghamwedd, a lladd fy mab?”
19. Meddai yntau wrthi, “Rho dy fab i mi.” Cymerodd ef o'i mynwes a'i gludo i'r llofft lle'r oedd yn byw, a'i osod i orwedd ar ei wely.
20. Galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, fy Nuw, a wyt yn dwyn drwg hyd yn oed ar y weddw y cefais lety ganddi, ac yn lladd ei mab?”
21. Yna ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, fy Nuw, bydded i einioes y bachgen hwn ddod yn ôl iddo.”
22. Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lef Elias, a daeth einioes y bachgen yn ôl iddo, ac adfywiodd.