1 Brenhinoedd 14:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr adeg honno clafychodd Abeia, mab Jeroboam.

2. A dywedodd Jeroboam wrth ei wraig, “Newid dy ddiwyg rhag i neb wybod mai gwraig Jeroboam ydwyt; yna dos i Seilo, lle mae'r proffwyd Aheia, a ddywedodd wrthyf y byddwn yn frenin ar y bobl hyn.

3. Cymer yn dy law ddeg torth, teisennau a phot o fêl, a dos ato; ac fe ddywed wrthyt sut y bydd hi ar y llanc.”

4. Gwnaeth gwraig Jeroboam felly; aeth draw i Seilo a dod i dŷ Aheia. Yr oedd Aheia'n methu gweld, am fod ei lygaid wedi pylu gan henaint.

1 Brenhinoedd 14