1 Brenhinoedd 11:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Pan heneiddiodd Solomon, hudodd ei wragedd ef i ddilyn duwiau estron, ac nid oedd ei galon yn llwyr gyda'r ARGLWYDD ei Dduw, fel y bu calon ei dad Dafydd.

5. Aeth Solomon i addoli Astoreth duwies y Sidoniaid, a Milcom ffieiddbeth yr Ammoniaid;

6. a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb lwyr ddilyn yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Dafydd.

7. Dyna'r pryd yr adeiladodd Solomon uchelfa i Cemos ffieiddbeth Moab, ac i Moloch ffieiddbeth yr Ammoniaid, ar y mynydd i'r dwyrain o Jerwsalem.

8. Gwnaeth yr un modd i'w holl wragedd estron oedd yn parhau i arogldarthu ac aberthu i'w duwiau.

9. Digiodd yr ARGLWYDD wrth Solomon am iddo droi oddi wrth ARGLWYDD Dduw Israel, ac yntau wedi ymddangos ddwywaith iddo,

10. a'i rybuddio ynglŷn â hyn, nad oedd i addoli duwiau eraill.

11. Ond ni chadwodd yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD. Am hynny dywedodd yr ARGLWYDD wrth Solomon, “Gan mai dyma dy ddewis, ac nad wyt ti wedi cadw fy nghyfamod na'm deddfau a orchmynnais iti, yr wyf am rwygo'r deyrnas oddi wrthyt a'i rhoi i un o'th weision.

1 Brenhinoedd 11