1 Brenhinoedd 10:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i'w brofi â chwestiynau caled.

2. Daeth i Jerwsalem gyda gosgordd niferus iawn—camelod yn cludo peraroglau a stôr fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl,

3. ac atebodd yntau bob un o'i gofyniadau; nid oedd dim yn rhy dywyll i'r brenin ei esbonio iddi.

1 Brenhinoedd 10